Taith hir i Langefni i chwarae gem yng nghystadleuaeth plât Cymru fu hi dydd Sadwrn,a dychwelyd gyda buddugoliaeth o 10-31 ac enw Dolgellau yn yr het am y rownd nesaf. Roedd yn gem dipyn agosach nag a gafwyd yn gynt yn y tymor,gyda'r ddau dîm yn chwarae rygbi agored ac ymosodol. Ar ôl ugain munud o chwarae a chyfnod o bwyso yn 22ain Llangefni fe gafodd Daf Jones y bel a doedd neb yn mynd i'w rwystro o 5 metr(5.7 allan 6 am y deif Daf). Yn fuan wedyn wedi pwyso gan Ddolgellau fe gawsant eu troi drosodd gan flaenwyr Llangefni ac fe redon y bel o'u 22ain a sgorio cais i lefelu'r sgor(5-5). Yn fuan wedi cicio ffwrdd fe giciodd Llangefni bel rydd yn ddwfn o'u hanner eu hunain i linell 5medr Dolgellau,ond roedd Tim wedi tracio yn ôl i arbed cais sicr ir tîm cartre. Pum munud cyn yr egwyl daeth ail gais i Ddolgellau wedi rhedeg cry gan y blaenwyr ac ailgylchu sydyn fe gafodd Gwion Jones ddigon o le i sgorio ar y chwith ir pyst(a'i drosi) ,5-12 ar yr egwyl,gallai fynd unrhyw ffordd.
Fe gododd yr hogia y tempo ar ol yr egwyl,a daeth tri cais arall a dau drosiad gan Gwion J. Daeth cais i'r prop Rhys Lewis wedi rhediad cry ble chwalodd yr amddiffynwyr o'i ffordd. Yna cais gan Celt Lewis,oedd yn chware blaen asgellwr, wedi i'r dre fynd drwy 'r cymalau nes fod y tim carte yn brin o amddiffynwyr. Ond yn eu holau y daeth Llangefni eto gan sgorio cais trwy wrthymosod o ddwfn (10-24). Gyda dau funud i fynd fe gododd Jake Hinge y bel o sgarmes ar 5medr y tim cartre a sgorio yn ymyl y pyst gan roi y sgor derfynnol o 10-31 . Gem o rygbi wedi chwarae gyda'g agwedd bositif gan y ddau dîm er gwaethaf rhai penderfyniadau amheus.
Chwaraewr y gêm wythnos yma yw y canolwr Owain Thomas am ei redeg cryf a'i daclo cadarn.
Nant Conwy i ffwrdd dydd Sadwrn nesa'. COYB!!
There doesn't appear to be any tagged photos.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.