Fixture

Ynysybwl RFC | Youth Team Under 18 15 - 15 Dolgellau RFC | Youth Team Under 18

Match Report
07 January 2018 / Team News

Ynysybwl v Dolgellau

Cychwyn yn gynnar lawr yr enwog A470 am Ynysybwl oedd hanes Ieuenctid Dolgellau am gem yng nghystadleuaeth Plat Undeb Rygbi Cymru ,wedi ei ail-drefnu wedi'r eira orfodi gohirio'r gêm 3 wsnos yn ôl.Clwb gyda dipyn o hanes o gynhyrchu chwaraewyr rhyngwladol megis Ceri Sweeney a Garin Jenkins i enwi dim ond dau,a chlwb hefyd y bu Dolgellau yn chwarae yn eu herbyn yn gyson yn y 90au gan eu bod yn yr un gynngrair.
Roedd talcen caled yn wynebu'r hogia wrth i 4 chwaraewr dynnu allan or garfan dros nôs oherwydd gwahanol resymau,ond rhaid oedd esgyn ir her. Or gic gyntaf methodd Dolgellau a dal y bel yn lân a daeth y tim cartre drwodd a rhoi pwysau yn ddwfn yn 22ain yr ymwelwyr. Ond amddiffyn yn gadarn a wnaethant ac wedi bron 10 munud o dan bwysau heb ildio pwyntiau fe aethant i fyny'r cae a chael sbel yn hanner y tim cartre. Daeth hyn a cig gosb i Ddolgellau a droswyd gan Gwion Jones i roi yr hogia ar y blaen o 3-0. Yn fuan iawn tarodd y tim cartre yn ôl 3-3 . Roedd yr ymwelwyr yn ei chael yn annodd i setlo yn hanner Ynysybwl,ond o un o'u ymweliadau wedi cic hir gyda'r gwynt,ac enill y llinell,fe aeth Gwion ar rediad a chyda help rhai o'i gyd chwaraewyr fe garion 3 amddiffynwr dros y llinell a turio o dan y pyst,a'i drosi i wneud y sgor yn 3-10. Ond methu dal ymlaen i'r fanfais wnaeth yr hogia wrth i ganolwr peryglus Ynysybwl osgoi sawl tacl i sgorio ger y pyst(+ trosiad) 10-10. Cafodd hogia Dolgellau gyfnod o bwyso ym mhum munud ola'r hanner ond methu ychwanegu at y sgor,felly 10 yr un ar yr hanner.
Cychwynnodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn erbyn y gwynt mewn modd lawer mwy positif gan gadw meddiant a hyrddio ymlaen yn gyson gan gadw'r tim cartre yn hanner eu hunain gan ymosod yn gyson,ac o un or ymosodiadau fe welwyd y bel yn cael ei phasio yn gelfydd ar hyd y llinell i Jake Hinge ar yr asgell,a ddangosodd awch a chryfder i groesi yn y gornel am gais wych i roi Dolgellau ar y blaen o 10-15 gyda 20 munud i fynd. Roedd Ynysybwl yn awyddys iawn o ledu'r bel i'w cefnwyr chwim,ac o un o'r ymosodiadau hyn fe groesodd eu asgellwr an gais yny gornel i ddod ar sgor yn gyfartal eto15-15, gyda 15 munud i fynd. Erbyn hyn roedd blaenwyr Dolgellau yn meistrioli ac yn cario yn gryf lawr y cae gan atal y tim cartre rhag cael sylfaen i ymosod oddiarno. Fel y dynesai y chwib olaf rhoddodd yr ymwelwyr bopeth i fewn ir gêm i sicrhau na gai cefnogwyr niferus a weithiau swnllyd y tim carte ddathlu. Wedi cryn ddryswch gan rai,fe ddyfarnwyd Dolgellau yn fuddugwyr,fel yr ymwelwyr,gan fod nifer ceisiadau,trosiadau a ciciau cosb yn gyfartal. Diolch i Mark am roi copi o reolau y gystadleuaeth yn fy meddiant.
Buddugoliaeth wych i'r hogia ac ymlaen i'r rownd nesa ar y Marian yn erbyn Bargoed neu Trebanos.Pleser oedd siarad gyda'r dyfarnwr wedi'r gem a'i glywed yn canmol agwedd ac ymddygiad chwaraewyr a chefnogwyr(a hyfforddwyr coeliwch neu beidio) Dolgellau at y dyfarnwr ar gem yn gyffredinol.
Diolch mawr i Helen am drefnu'r daith,i Mark am yr adloniant ar y ffordd adre,a phawb arall fu o gymorth ar y diwrnod.
Carfan:Rhys Lewis, Dafydd Jones,Gwion Lloyd,Ifan Malone,Celt Lewis, Ifan Jones,Jac Kelly,Daf George,Cai Lewis Smith,Tim Jones, Lew Jones, Daf Roberts, Gwion Jones,Dean Thomas,Daf Bryan,Jake Hinge, Tom Markam.
COYB!!!!
Blwyddyn newydd dda i holl chwaraewyr a ffrindiau Ieuenctid Dolgellau

Players Fixture player info not published.
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|