Fixture

Dolgellau RFC | 1st Team 20 - 32 Mold RFC | 1st Team

Match Report
24 September 2017 / Team News

Dolgellau 20.v.32 Yr Wyddgrug


                               [Adran 1 Gogledd] 23.09.2017

Siom enfawr unwaith eto yr wythnos yma. Wedi gweithio mor galed i fod ar y blaen o 15-7 ar yr egwyl, Dolgellau yn ildio pedair cais yn ystod cyfnod o ugain munud ar ddechrau’r ail hanner, yn debyg iawn i’r gem yn Bala wythnos diwethaf.

Bu i Ddolgellau ddechrau yn gryf gyda’r ail reng, Bryn Jones yn croesi am gais wedi rhediad rymys gan y rhif 8, Rob Lewis wedi pum munud o chwarae. Troswyd y cais gan Gerwyn Thomas i roi Dolgellau 7-0 ar y blaen.  Tarodd Yr Wyddgrug yn o ar unwaith gyda cais i’w mewnwr, James Kirby, gyda’r maswr, Nick Hughes yn trosi i wneud y sgor yn 7-7.
Wedi cwarter awr daeth cic gosb i Gerwyn Thomas i roi Dolgellau yn ol ar y blaen.

Roedd y tim cartref yn gweithio yn galed i geisio ychwanegu at eu blaenoriaeth, ond bu raid aros tan munud olaf yr hanner cyn i’r ymdrech ddwyn ffrwyth. Yr ail reng, Bryn Jones yn cloriannu hanner rhagorol gyda ei ail gais o’r gem, wedi i Rhys Roberts ddod yn agos.
Roedd hyn yn gwneud y sgor yn 15-7 ar yr egwyl, ac Dolgellau yn llawn haeddu bod ar y blaen.

Roedd Yr Wyddgrug yn wahanol dim wedi’r toriad. Daeth pedwar cais iddynt yn yr ugain munud agoriadol. Dwy gais i’r canolwr, James Portsmouth, ac un yr un i’r blaenasgellwyr, Chris Ellis a Dylan Payne. Daeth trosiad i Jack Pearson i roi ei dim 15-29 ar y blaen.

Daeth llygedyn o obaith i Dolgellau gyda naw munud yn weddill wrth i’r eilydd ifanc, Dafydd Roberts, yn ei ymddangosiad cyntaf i’r Tim Cyntaf, greu agoriad, i’r capten, Rhys Roberts 
sgorio trydydd cais y dre, i wneud y sgor yn 20-29.  Eto nid oedd yna ddiweddglo cyffroes i fod, ac daeth cic gosb i Cai Edwards i wneud y gem yn ddiogel i’r Wyddgrug gyda pedwar munud yn weddill. 

Ail hanner gwael i Ddolgellau a hynna wedi hanner cyntaf addawol eto yr wythnos yma.

Dyfarnwr : Robert Jones

Ball Boys [U14] : Sion Morris, Gweltaz Davalan, Cian Jones, Ellis Rogers, Owen Davies

Players Fixture player info not published.
|