Mae Dolgellau yn parhau ar frig Yr Adran wedi buddugoliaeth wych yma yn erbyn y tim sydd yn ail, ond bu raid goroesi cyfnod hynod o nerfus ar ddiwedd y gem, gyda Dolgellau i lawr i 13 o ddynion a Llangefni yn pwyso yn drwm i geisio dod yn gyfartal.
Yr ymwelwyr a aeth ar y blaen wedi deuddeg munud, gyda cic gosb i'r cefnwr,Owain Thomas. Bu raid i Ddolgellau amddiffyn, ac diolch unwaith eto i daclo Dylan Evans i atal cais. Fe ddaeth Dolgellau yn gyfartal wedi hanner awr, wrth i'r prop Dan Brazier drosi cic gosb, ac yn eiliadau olaf yr hanner fe lwyddodd i roi ei dim ar y blaen o 6-3 gyda cic gosb arall, wedi i Gareth Hughes a Dewi Thomas ddod yn agos.
Roedd yr ail hanner yr un mor gystadleuol a'r hanner cyntaf, ac bu i Ddolgellau fynd ymhellach ar y blaen wedi cwarter awr, diolch i drydydd cic gosb gan Dan Brazier. Gyda'r maswr, Gerwyn Thomas yn ol yn ei safle arferol, roedd y dre yn llawn ddominyddu y gem erbyn hyn, ac wedi cyfnod o bwyso, ac wedi rhediad i lawr canol y cae gan Jac Roberts, fe lwyddodd yr eilydd o fachwr, Dylan Evans i groesi y llinell am cais, eto roedd y dyfarnwr heb ei weld, ac bu i'r clo Rhys Roberts lwyddo i durio yr ail dro i roi Dolgellau 14-3 ar y blaen.
Ysywaeth fe darodd Llangefni yn ol gyda dwy gic gosb i Owain Thomas i wneud y sgor yn 14-9 i wneud y deg munud olaf yn rhai digon nerfus i Dolgellau a'u dilynwyr ffyddlon. Wrth i'r tensiwn gynyddu, bu i Dolgellau golli Dylan Llewelyn a Dewi Thomas i gardiau melyn, ac bu rhaid goroesi gyda on 13 dyn am y munudau 'hirfaith' olaf, ac fe lwyddodd i wneud hyny yn arwrol i roi buddugoliaeth mor haeddiannol iddynt.
dyfarnwr : Bobi Beach
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.