Fixture

COBRA | Youth Team Under 18 3 - 43 Dolgellau RFC | Youth Team Under 18

Match Report
15 January 2017 / Team News

Buddugoliaeth i dim ieuenctid

Buddugoliaeth arall i dim ieuenctid Dolgellau i ffwrdd ym Meifod yn erbyn Cobra.Dewisiodd y tim cartref chwarae'r gem ar gae ddim llawer mwy na stamp postio,i geisio atal Dolgellau rhag chwarae eu gem tempo uchel arferol a lledu'r bel o un ochr y cae ir llall.Bu'r cynllun yn eitha llwyddianus ir tim cartref yn yr hanner cynta,ond fe roddodd hogia Dolgellau berfformiad dosbarth cyntaf yn yr ail hanner i ddychwelyd o Feifod gyda buddugoliaeth o 3-43.
Cobra yn chwarae gyda'r gwynt yn yr hanner cyntaf yn rhedeg yn gryf drwy eu blaenwyr,ond roedd hogia Dolgellau yn taclo pob dim allai Cobra daflu atynt ac yn gwrthymosod ar bob cyfle,ond oherwydd rhesymau y soniwyd amdanynt eisoes roedd hi'n eitha hawdd amddiffyn. Trosodd maswr Cobra gic gosb wedi ugain munud(3-0), ond wedi hynny Dolgellau fu'n rheoli drwy'r blaenwyr yn cario'n gryf ac ail gylchu sydyn. Daeth cais ir dre cyn yr hanner wedi i Lew redeg cic gosb sydyn yn 22 Cobra a bwydo'r blaenwyr i gario ymlaen a llwyddo i groesi dan y pyst trwy Daf George.Trosiad Elis Smith(3-7 ar yr egwyl).
Wedi'r toriad a gyda'r elfennau o'u plaid fe gododd hogia Dolgellau eu gem a chwarae rygbi o safon mewn amgylchiadau digon anodd.Roedd y pwysau yn dweud ar amddiffyn y tim cartre ar ciciau cosb yn cynnyddu,hyd nes i ddau o  chwaraewr Cobra dderbyn cerdyn melyn am droseddu cyson(cafodd un ei ail gerdyn melyn a bu raid ir tim cartre orffen gyda 14chwaraewr). Daeth ceisiadau cyson yn ystod yr ail hanner drwy Jake Hinge,asgellwr(2), Meirion Evans,canolwr(1),Ifan Rhys,ail reng(1),Tim Jones,wythwr(1), a'i gais cyntaf erioed i Gwion Lloyd a dderbynniodd floedd fwyaf y pnawn gan ei gyd -chwaraewr ar dorf luosog o Ddolgellau.Cafwyd dau drosiad gan Elis ag un gan Daf Roberts yn yr ail hanner i gwblhau y sgorio.Perfformiad da unwaith eto ble bu raid addasu i faint y cae ar mwd.Da iawn chi.Chwaraewr y gem wythnos yma ydy Rhys Lewis am ei waith diflinno yn cario'r bel a'i daclo digyfaddawd,gyda perfformiadau cryf iawn hefyd gan Celt ,Rhys Titley a Daf George.Diolch arbennig i rieni a ffrindiau sydd yn dod i gefnogi'r hogia a chynorthwyo yn ystod y dydd. Ceisio trefnu gem at Sadwrn nesa.
COYB

Players Fixture player info not published.
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|